Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau anatomegol ![]() |
---|---|
Math | israniad o odre'r glust, endid anatomegol arbennig, blaen trwyn a llabedi clustiau ![]() |
Rhan o | godre'r glust ![]() |
Mae llabed y glust ddynol (lobulus auriculae) wedi'i gyfansoddi o feinweoedd cysylltiol areolaidd a blongog, sydd a llai o gadernid ac elastigedd gweddill godre'r glust (strwythur allanol y glust). Mewn rhai achosion, mae rhan isaf y llabed wedi'i chysylltu ag ochr y wyneb. Gan nad yw llabed y glust yn cynnwys cartilag[1] mae ganddo gyflenwad mawr o waed a gall helpu i gynhesu'r glust a chadw cydbwysedd. Fodd bynnag, nid yw llabedau'r glust yn cael eu hystyried o unrhyw ddefnydd biolegol arwyddocaol.[2] Mae'r llabed yn cynnwys nifer o derfynau nerf, ac i rai pobl yn barth nwydus.
Yn ei lyfr The Naked Ape (1967), cyflwynodd y swolegydd Desmond Morris y ddamcaniaeth bod y llabedau wedi datblygu fel parth nwydus ychwanegol er mwyn hwyluso'r rhywioldeb estynnol oedd yn angenrheidiol yn esblygiad paru unweddog rhwng bodau dynol.[3]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search